Cynllunio
Dyma lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynllunio a chaniatâd
Bydd Erebus wedi’i leoli tua 35 km oddi ar arfordir De-orllewin Sir Benfro.
Mae Cynllunio ar gyfer Erebus yn cynnwys:
7 Cynhyrchydd Tyrbin Gwynt (WTGau) ar lwyfannau WindFloat™, wedi’u lleoli oddi ar arfordir Sir Benfro
Llwybr cebl alltraeth yn ôl i’r man glanio ym Mae Gorllewin Angl
Llwybr cebl ar y tir o’r man glanio i is-orsaf newydd, wedi’i lleoli ger Is-orsaf NGET Penfro bresennol
Cysylltiad o’r is-orsaf newydd ag Is-orsaf NGET Penfro
Disgwylir i’r caniatâd sydd ei angen ar gyfer y prosiect gynnwys:
Trwydded Forol
Trwydded Forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Mynediad i’r Môr a’r Arfordir 2009
Cydsyniad Deddf Trydan
Caniatâd gan Weinidog Cymru o dan Adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 gyda Chaniatâd Cynllunio tybiedig – i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn amodol ar gymeradwyaeth
Statws Caniatâd
Yn dilyn proses gynhwysfawr cyn-ymgeisio ac Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) rhwng 2019 a 2021, cyflwynodd y Prosiect ei geisiadau am ganiatadau allweddol ym mis Rhagfyr 2021.
Cafodd cytundeb ar yr holl faterion pwysig ei gyrraedd ym mis Rhagfyr 2022, gan arwain at y canlynol:
- Cyhoeddi Trwydded Forol a chaniatâd Asesiad Effaith Amgylcheddol ym mis Chwefror 2023; a
- Cyhoeddi Caniatâd Adran 36 gyda Chaniatâd Cynllunio tybiedig ym mis Mawrth 2023.


