Cynllunio

 

Dyma lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynllunio a chaniatâd

 

Gallwch ddarllen ein holl ddogfennau cynllunio cysylltiedig, gweithgaredd arolwg arfaethedig, a manylion unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus sydd ar ddod. Defnyddiwch y dudalen cysylltu â ni i gysylltu a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Bydd Erebus wedi’i leoli tua 35 km oddi ar arfordir De-orllewin Sir Benfro.

Mae Cynllunio ar gyfer Erebus yn cynnwys:

7 Cynhyrchydd Tyrbin Gwynt (WTGau) ar lwyfannau WindFloat™, wedi’u lleoli oddi ar arfordir Sir Benfro

Llwybr cebl alltraeth yn ôl i’r man glanio ym Mae Gorllewin Angl

Llwybr cebl ar y tir o’r man glanio i is-orsaf newydd, wedi’i lleoli ger Is-orsaf NGET Penfro bresennol

Cysylltiad o’r is-orsaf newydd ag Is-orsaf NGET Penfro

Disgwylir i’r caniatâd sydd ei angen ar gyfer y prosiect gynnwys:

Trwydded Forol

Trwydded Forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Mynediad i’r Môr a’r Arfordir 2009

Cydsyniad Deddf Trydan

Caniatâd gan Weinidog Cymru o dan Adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 gyda Chaniatâd Cynllunio tybiedig – i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn amodol ar gymeradwyaeth

Statws Caniatâd

Yn dilyn proses gynhwysfawr cyn-ymgeisio ac Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) rhwng 2019 a 2021, cyflwynodd y Prosiect ei geisiadau am ganiatadau allweddol ym mis Rhagfyr 2021.

Cafodd cytundeb ar yr holl faterion pwysig ei gyrraedd ym mis Rhagfyr 2022, gan arwain at y canlynol: 

  • Cyhoeddi Trwydded Forol a chaniatâd Asesiad Effaith Amgylcheddol ym mis Chwefror 2023; a
  • Cyhoeddi Caniatâd Adran 36 gyda Chaniatâd Cynllunio tybiedig ym mis Mawrth 2023.